Mae’r New Inn yn Llanddewi Brefi yn cynnig croeso cynnes gydag amrywiaeth eang o gwrw traddodiadol a chynhesrwydd tân glo. Yn ystod yr haf, gallwch fwynhau’r ardd gwrw a golygfeydd godidog o ddyffryn Brefi.
Pentref Llanddewi Brefi yw’r ail Blwyf mwyaf yng Nghymru ac un o’r enwocaf yn hanesyddol. Mae gan y pentref hanes hir ac arwyddocaol sy’n dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Yn y ganrif gyntaf, fe sefydlodd y Rhufeiniaid wersyll a baddondai yn Llanio Isaf o’r enw Loventium, ac yn ddiweddarach, fe adeiladwyd ffordd Sarn Helen. Yna yn 520A.D, fe ddewiswyd y pentref gan Nawddsant Cymru, Dewi Sant, ar gyfer y Synod enwog i wrthbrofi Dysgeidiaeth Pelagiws. Byddai pobol o’r Gogledd i’r De ac ar hyd arfordir y gorllewin wedi clywed ei neges gan sefydlu’r Eglwys Gristnogol yng Nghymru. Cymaint oedd pwysigrwydd y safle, ar un adeg ystyriwyd adeiladu Prifysgol yma yn Llanddewi Brefi. Mae’r gwersyll Rhufeinig a’r system ffyrdd, canolbwynt pwysig y traddodiad Cristnogol yng Nghymru a safle dysg seciwlar wedi bod yn sylfaen i ddatblygiad economaidd a chymdeithasol y pentref hwn a’r Plwyf. Mae Llanddewi Brefi yn enwog ar draws Cymru , Prydain a ledled y byd gan bobol o bob cefndir.