Amdanom ni

Dechreuais redeg y dafarn yn 1990 – tafarn deuluol a chymdeithasol yw’r New Inn.

Mae’r New Inn yn enwog am ei lletygarwch a chroeso cynnes. Gallwch hefyd ddibynnu arnom ni am bryd blasus o fwyd cartref, lle’n bosib o gynnyrch lleol a Chymreig. Mae gyda ni amrywiaeth eang o gwrw traddadiadol a chynhesrwydd tân glo.

Yn ystod yr haf, gallwch fwynhau’r ardd gwrw a golygfeydd godidog o Ddyffryn Brefi.

Mae’r New Inn yn darparu bwyd cartref bob dydd ond ar ddydd Sul

Dydd Llun11.30am – 7.30pm
Dydd Mawrth11.30am – 7.30pm
Dydd Mercher2.00pm – 7.30pm
Dydd Lau11.30am – 7.30pm
Dydd Gwener11.30am – 7.30pm
Dydd Sadwrn11.30am – 7.30pm
Dydd SulCegin ar Gau

Gwely a Brecwast ar gael gydol y flwyddyn.

Mae prydau nos ar gael ar gais. Byddech mor garedig a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion deiet arbennig o flaen llaw. Croeso i blant. Yn anffodus, nid yw’r llety yn addas ar gyfer cwn.

Am brisiau ac i weld os oes lle, cysylltwch â ni naill ai drwy e-bost neu’r ffôn